Rydych chi yma: Hafan > Hafan y Gymdeithas > Cyfleoedd am swyddi

Cyfleoedd am swyddi

MENTRAU C.A.F.C. CYF
Is-Gwmni Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Cyf

RHEOLWR CYNORTHWYOL

£15,000 y flwyddyn pro rata -  contract 10 mis


Mae hwn yn gyfle i ymuno â’r tîm bychan sefydlog yn Neuadd Henllan, busnes sy’n gwasanaethu gofynion arlwyo a llety safle sioe, cynadleddau ac arddangosfeydd a leolir ar faes sioe parhaol
yng Nghanolbarth Cymru.

Mae’r cwmni’n gobeithio cyflogi unigolyn brwdfrydig gyda chymwysterau addas i weithio yn y swydd lawn amser yma.
Byddai disgwyl i’r Cynorthwy-ydd baratoi, cyflenwi a chyflwyno bwyd ac ymgymryd â phob agwedd ar gadw tŷ yn ogystal â dirprwyo dros y Rheolwyr presennol.

Mae oriau hyblyg yn berthnasol, yn cynnwys gwaith penwythnos a min nos.

Byddai tystiolaeth o brofiad/fedr yn y meysydd canlynol yn ddymunol:

•    Arlwyo/Lletygarwch
•    Cadw Tŷ
•    Goruchwylio staff
•    Gweinyddiaeth Gyffredinol
•    Gweithio mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
•    Gweithio dan bwysau ac i derfynau amser
•    Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da
•    Trwydded yrru ddilys y Deyrnas Unedig

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun